Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

14 Mai 2018

SL(5)210 – Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2018

Gweithdrefn: Negyddol

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adeiladu 2010 ("Rheoliadau 2010").

Mae rheoliad 3(1) yn diwygio rheoliad 36 (effeithlonrwydd dŵr anheddau newydd) er mwyn cyflwyno gofyniad newydd sef pan fo annedd yn cael ei chodi, ni chaniateir i’r defnydd posibl o ddŵr dihalog gan bersonau sy’n meddiannu’r annedd fod yn fwy na 110 o litrau y person y dydd. Mae’r gofyniad presennol o 125 o litrau yn parhau pan fo newid defnydd sylweddol megis adeilad yn cael ei ddefnyddio fel annedd neu’n cynnwys fflat, pan nad oedd o’r blaen yn y naill achos neu’r llall.

Mae rheoliad 3(3) yn ychwanegu paragraff G2A (effeithlonrwydd dŵr adeiladau newydd ac eithrio anheddau ac adeiladau gofal iechyd) i Ran G (glanweithdra, diogelwch dŵr poeth ac effeithlonrwydd dŵr) o Atodlen 1 (gofynion mewn perthynas â gwaith adeiladu). Nid yw’r gofyniad newydd yn gymwys i anheddau nac adeiladau gofal iechyd.

Effaith rheoliad 4 yw dynodi rheoliadau 23 (gofynion ar gyfer adnewyddu neu ailosod elfennau thermol), 25B (gofynion bron di-ynni ar gyfer adeiladau newydd) a 26 (cyfraddau allyriadau CO2 ar gyfer adeiladau newydd) at ddibenion adran 35 o Ddeddf Adeiladu 1984 (cosb am dorri rheoliadau adeiladu) i’r graddau y mae’r rheoliadau hynny yn gymwys i adeiladau’r Goron neu i waith adeiladu a wnaed gan awdurdodau’r Goron neu y bwriedir ei wneud ganddynt.

Mae rheoliad 5 yn ychwanegu Rhan Q (diogelwch) at Atodlen 1. Mae’r gofyniad newydd hwn yn gymwys i godi anheddau yn unig.

Mae rheoliad 6 yn cynnwys darpariaeth drosiannol.

Gwneir rhai mân ddiwygiadau drafftio a chanlyniadol yn ogystal.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Adeiladu 1984

Fe’u gwnaed ar: 30 Ebrill 2018

Fe’u gosodwyd ar: 04 Mai 2018

Yn dod i rym ar: 01 Tachwedd 2018

SL(5)211 – Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2018

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (“y Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir”) o ran Cymru.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir ac Atodlen 2 iddo yn rhoi hawliau datblygu a ganiateir mewn cysylltiad â datblygu penodol. Pan fo hawliau o’r fath wedi eu rhoi, nid yw cais am ganiatâd cynllunio yn ofynnol.

Mae Dosbarth A o Ran 24 o Atodlen 2 i’r Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir yn caniatáu datblygu penodol gan weithredwyr cod cyfathrebiadau electronig ar yr amod nad yw’n dod o fewn A.1 (datblygu nas caniateir) ac yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a chyfyngiadau perthnasol yn A.2 ac A.3.

Mae paragraff A.2(4A) yn nodi amodau mewn perthynas ag adeiladu, gosod neu amnewid polion, cabinetau neu linellau telegraff ar gyfer gwasanaethau band eang llinell sefydlog mewn perthynas â chategorïau o dir a nodir yn erthygl 1(5) o’r Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir a Rhan 2 o Atodlen 1 iddo. Os bodlonir yr holl amodau perthnasol, nid yw’n ofynnol cael cymeradwyaeth ymlaen llaw ar gyfer datblygiad o’r fath o dan baragraff A.3. Un o’r amodau hynny yw bod rhaid cwblhau’r datblygiad ar 30 Mai 2018 neu cyn hynny.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn estyn y dyddiad hwnnw i 30 Mai 2019.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990

Fe’u gwnaed ar: 02 Mai 2018

Fe’u gosodwyd ar: 04 Mai 2018

Yn dod i rym ar: 30 Mai 2018

SL(5)212 – Rheoliadau Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Adeiladau Ynni a Eithrir) (Cymru) 2018

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adeiladu 2010 (“y Rheoliadau Adeiladu”) a Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010 (“y Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy”) mewn perthynas ag adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru..

Trosglwyddwyd swyddogaethau o dan Ddeddf Adeiladu 1984 (“Deddf 1984”) i wneud rheoliadau adeiladu a materion cysylltiedig i Weinidogion Cymru gan Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif. 2) 2009 a ddaeth i rym ar 31 Rhagfyr 2011. Gwnaed eithriad o’r trosglwyddo mewn perthynas ag “adeiladau ynni a eithrir” (fel y diffinnir “excepted energy buildings” yn y Gorchymyn hwnnw).

Roedd diwygiadau i’r Rheoliadau Adeiladu a’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol o 31 Rhagfyr 2011 yn gymwys o ran Lloegr ac i adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru. Roedd diwygiadau i’r Rheoliadau hynny a wnaed gan Weinidogion Cymru o 31 Rhagfyr 2011 yn gymwys o ran Cymru ac eithrio i adeiladau ynni a eithrir.

Mae adran 54 o Ddeddf Cymru 2017 yn dileu’r eithriad mewn perthynas ag adeiladau ynni a eithrir drwy wneud y ddarpariaeth angenrheidiol ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau o dan Ddeddf 1984 ar gyfer y categori hwnnw o adeiladau o 1 Ebrill 2018.

Effaith y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yw cysoni’r darpariaethau yn y Rheoliadau Adeiladu a’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy mewn perthynas ag adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru â’r Certified copy from legislation.gov.uk Publishing 2 darpariaethau sy’n gymwys i adeiladau eraill yng Nghymru.

Rhiant-Ddeddf: Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972; Deddf Adeiladu 1984

Fe’u gwnaed ar: 30 Ebrill 2018

Fe’u gosodwyd ar: 04 Mai 2018

Yn dod i rym ar: 08 Mehefin 2018